Ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid, roedd Clwb Ieuenctid Bae Cinmel eisiau ymarfer yr elfen ‘Rhoi’ yn y 5 awgrym llesol a gwnaed hyn drwy gasglu sbwriel yn y gymuned. Fe wnaethon nhw waith ardderchog a chasglwyd cyfanswm o 15 bag o sbwriel, gwaith arbennig gan y criw! Rydym yn hynod o falch gyda pha mor galed y bu pawb yn gweithio. I ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid, ac i gydnabod eu holl waith caled, fe wnaeth pawb fwynhau lluniaeth haeddiannol iawn i gloi’r noson yng Nghanolfan Gymunedol Rhodfa Caer. Diolch yn fawr hefyd i 'Cadw Cymru'n Daclus' am ddarparu'r holl offer i ni #CaruCymru #wgi22 #llesgi #Rhoi
You must be logged in to post a comment.